Nodyn #1
Annwyl Aelodau’r Pwyllgor
Hoffwn ddal ar y cyfle i anfon gair atoch i annog y Llywodraeth i ddal ar yr unig gyfle i sicrhau un o leoliadau pwysicaf Cymru ar gyfer y genedl. Mae gwir angen Ymddiriedolaeth i sicrhau bod Garth Celyn yn eiddo i’r genedl, a’r unig ffordd o sicrhau hyn yw bod y Llywodraeth yn gwario arian y genedl i sicrhau fod un o adeiladau pwysicaf ein hanes yn cael ei fwynhau gan genedlaethau sydd i ddod.
Er gwaetha’r cyfyngiadau ariannol presennol , mae angen o dro i dro edrych ar y darlun ehangach, ac ystyried fod pethau sydd ar hyn o bryd o fewn ein gafael, o bosib o fewn perygl o gael eu colli am byth. Mae Garth Celyn yn y fantol, ac mae angen i’r Cymry hawlio eiddo’r Cymry.
Dymuniadau gorau ar y trafodaethau.
Yn gywir
Tudur Dylan Jones
Nodyn #2
Annwyl Syr
Ysgrifennaf atoch ynglŷn a dyfodol Garth Celyn, catref hanesyddol Tywysogion Cymru yn Abergwyngregyn.
Ers nifer o flynyddoedd bellach bum yn tywys criwiau o bobl ifainc yn enw Urdd Gobaith Cymru yn flynyddol ar daith i Ogledd Cymru i ddysgu am ein hanes a’n hetifeddiaeth fel rhan o’u cwrs lefel A Cymraeg ail iaith. Fel rhan o’r cwrs maent yn astudio ddrama Saunders Lewis – SIWAN.
Mae Kathryn Gibson, perchenog Garth Celyn, sydd hefyd yn hanesydd o bwys, wedi roi blynyddoedd o’i hoes i wneud ymchwil manwl a chynhwysfawr ar hanes Garth Celyn. Mae hi wedi profi tu hwnt i bob amheuaeth taw dyma oedd pencadlys Tywysogion Cymru. Mae haneswyr eraill yng Nghymru a nifer fawr o unigolion a chyrff ein gwlad wedi ategu’r ymchwil yma a nodi pwysigrwydd yr adeilad hynafol yma yn ein hanes.
Mae Kathryn wedi bod yn agor drysau ei chartref a chroesawu pobl o bob oed o bob cwr o Gymru a thu hwnt i mewn i’w chartref ers amser maith ac mae ei hymrwymiad i adrodd cefndir pwysig Garth Celyn yn unigryw a gwerthfawr. Mae hanes Tywysogion Cymru yn hynod o bwysig ac fe ddylai phob ysgol yng Nghymru fod yn trosglwyddo’r darn pwysig yma o’n hanes i genedlaethau’r dyfodol.
Trist iawn felly oedd clywed fod ddyfodol Catref ein Tywysogion yn afantol a braf oedd clywed am ymgyrch Kathryn i sicrhau dyfodol y tŷ. Credaf yn gryf fod gan cyrff megis CADW, Comisiwn Henebion Cymru, Cyngor Gwynedd ac yn sicr Cynulliad Cenedlaethol Cymru dyletswydd i sicrhau dyfodol Garth Celyn i’r cenedlaethau a ddaw.
Edrychaf ymlaen at glywed canlyniad y drafodaeth yn y Pwyllgor Deisebu yn y Cynulliad a mawr obeithio taw dechrau yn unig yw hyn ac y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sicrhau fod Garth Celyn yn cael ei warchod a’i datblygu fel safle o bwys hanesyddol i bawb yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Yr eiddoch yn gywir
Helen Greenwood, Swyddog Datblygu Rhanbarth Gwent, Urdd Gobaith Cymru
Swyddfa’r Urdd (Rhanbarth Gwent),Ty'r Ysgol, Stryd Holland, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6HT. Ffôn: 01495 350155 / Ffacs: 01495 306867.E-bost: HelenG@Urdd.org
Nodyn #3
Annwyl Bwyllgor Deisebau,
Anfonaf atoch i gefnogi'r alwad ar i Lywodraeth Cymru brynu Garth Celyn er mwyn digoelu'r safle i'r cenedlaethau sydd i ddod. Mae'r lleoliad yn rhan o'n treftadaeth ac mae'n hanfodol i'w gadw. Yn anffodus, mae'r safle mewn perygl o gael ei werthu a'i ddatblygu.
Rydym fel ysgol yn teithio'n gyson i'r gogledd i ymweld â lleoliadau pwysig yn hanes Llenyddiaeth Cymru. Garth Celyn yw'r lleoliad sydd wastad yn cynnig y blas gorau i'n myfyrwyr o ffordd arbennig o fyw. Gallant ddychmygu'r ddrama 'Siwan' yn digwydd o flaen eu llygaid yn y lleoliad arbennig hwn.
Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod ein pobl ifanc yn dod i wybod hanes y lle arbennig hwn. Ymbiliaf arnoch i gefnogi'r cais.
Gyda diolch,
Lowri Davies,
Pennaeth Cymraeg
Ysgol y Strade,
Llanelli
Nodyn #4
Annwyl Bwyllgor Deisebau,
Hoffwn gefnogi yr alwad ar lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn. Mae'r lle mewn perygl o gael ei werthu a'i ddatblygu, ac fel rhan gwerthfawr o'n hanes ni fel cenedl, dylid prynu'r lle i ddiogelu lle i'r cenedlaethau i ddod, ac i sicrhau fod hanesion Garth Celyn yn cael eu cofio.
Yn gywir
Dylan Nicholas
Nodyn#5
Rwy'n cefnogi'r alwad ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn er mwyn ddiogelu'r lle i'r cenedlaethau sydd i ddod. Mae'r lle mewn perygl o gael ei werthu a'i ddatblygu. Mae angen sicrhau bod ein pobl ifanc y dyfodol yn dod i wybod yr hanes.
Yn gywir,
Fflur Mathias
Nodyn#6
Annwyl Bwyllgor Deisebau,
Hoffwn gefnogi yr alwad ar lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn. Mae'r lle mewn perygl o gael ei werthu a'i ddatblygu, ac fel rhan gwerthfawr o'n hanes ni fel cenedl, dylid prynu'r lle i ddiogelu lle i'r cenedlaethau Annwyl Bwyllgor Deisebau
Rwy'n deal bod deiseb wedi ei chyflwyno i'r Llywodraeth yn annog pryniant o dir Garth Celyn.
Hoffwn gefnogi'r nod yma gan gofio bod y safle o ddiddordeb cenedlaethol I Gymru. Mae sicrhau dyfodol y tir yma o ddiddordeb i'n treftadaeth ni fel cenedl.
Diolch
Aled Williams, Penrhos,,Heol Maesyffynnon,Caerfyrddin,SA31 1DZ
Nodyn #7
Annwyl Aelodau’r Pwyllgor,
Deallaf y byddwch yn trafod sefyllfa Garth Celyn dros y diwrnodau nesaf. Mae arwyddocad y lle o ran ein hanes yn hen gyfarwydd i chi heb os, ond hoffwn dynnu eich sylw at ei rôl yn y cyfnod diweddar hwn fel atynfa i gannoedd o ddisgyblion ysgol. Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, cafodd byseidiau o blant eu gwefreiddio wrth ymweld â’r lleoliad, a chael dysgu am eu treftadaeth mewn ffordd fythgofiadwy. Dyma gartref sy’n gallu agor nifer o ddrysua’r Cwricwlwm Cymreig, ac sy’n rhoi cyfle i unigryw i ymwelwyr ddod i ddeall am batrymau byw Cymry ddoe mewn modd uniongyrchol a chyffrous. Hyderaf y byddwch yn gwneud popeth posib i gadw’r trysor hwn yn nwylo’r genedl.
Yn gywir
Mererid Hopwood